 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cafodd Dawnswyr Nantgarw gyfle arbennig i ddangos eu gwerthfawrogiad o waith eu harweinyddion ar y rhaglen 'Diolch o Galon' ar S4C yn ddiweddar. Gwelwyd Eirlys
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Britton a Cliff Jones yn cael dipyn o sioc wrth i Gavin Ashcroft gyflwyno'r tlws iddynt yng Ngðyl Ddawnsio Majorca.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Amanda Protheroe Thomas, Danny Grehan a Roy Noble yn dathlu llwyddiant Potentia
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
DANFON HEN OFFERYNNAU I DDE AFFRICA
Yn dilyn ymweliad tri digybl o Ysgol Gyfun Llanhari â Ysgol Uwchradd Umqhele yn Ne Affrica cychwynwyd prosiect i gasglu adnoddau dysgu i'w cludo i'r ysgol. Mae angen yn druenus eitemau elfennol megis papur, pensiliau a phaent, yn ogystal ag offer a chyfarpar gwaith pren a gwaith metel a hefyd offerynnau cerddorol. Mae disgyblion Ysgol Gyfun Llanhari'n apelio am gymorth gan y cyhoedd i gefnogi'r fenter drwy gyfrannu hen offerynnau cerddorol segur sydd yn cuddio'n y garej, yr atig neu o dan y gwely! Mae Mr Geoff Davies, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Sir Caerdydd a Bro Morgannwg wedi datgan ei gefnogaeth i'r prosiect, ac ar ddydd Gwener 3ydd Hydref cyflwynwyd amryw o hen offerynnau cerddorol i'r casgliad.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Mae Danny Grehan, Tonyrefail wedi dechrau busnes newydd dyma sut y cychwynodd y gwaith. Dechreuodd fy niddordeb mewn tylino (massage) flynyddoedd lawer yn ôl bellach, pan o'n i ar gwrs drama'r Urdd yn Llangrannog, ond dim ond yn ddiweddar y ces i'r hyder i fynd ar gwrs i ddysgu tylino'n iawn. Dwy flynedd yn ôl dechreuais i ar gwrs tylino gyda Choleg Morgannwg, ond doedd gen i ddim syniad mod i'n mynd i fwynhau gymaint - na mod i'n mynd i ddysgu cymaint (cawson ni gyflwyniad i anatomi a ffisioleg oedd yn rhoi'r sylfaen i'r drefn dylino). Gwnes i hefyd gwrs sylfaenol ar dylino pen Indiaidd. Y flwyddyn ddiwethaf wedyn gwnes gyrsiau ar aromatherapi a thylino chwaraeon, gan wneud diploma llawer iawn mwy cynhwysfawr mewn anatomi a ffisioleg. Dw i wrthi ar hyn o bryd yn gwneud cyrsiau ar adweithyddiaeth (reflexology) a chwrs uwch mewn tylino pen Indiaidd. Roedd y syniad o ddechrau busnes o'r diddordeb wedi croesi fy meddwl sawl gwaith, ond doeddwn i ddim wedi gwneud dim byd yn ei gylch nes i mi fynd ar un o gyrsiau Menter a Busnes / Potensia oedd wedi ei drefnu gan Menter Iaith. Deffro'r Ysbryd Mentrus oedd enw'r cwrs - ac fe lwyddodd! Trefnais gyfarfod â swyddog Menter a Busnes, Branwen Daniel, a chael help a chefnogaeth ymarferol ganddi. Cefais ddylunydd i gynllunio logo a thaflenni, a help i lunio www.iechydda.com safle gwe newydd. A dyna eni Iechyd Da. Yn ddiweddar ces i fy ngwahodd i fod yn rhan o lawsniad i ddathlu agor y milfed busnes dan adain Potensia.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Mae Ysgol Gyfun Llanhari'n cydweithio ag elusen `School-Aid' wrth gasglu'r rhoddion a'u cludo i Dde Affrica.
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cymdeithas yr Iaith RALI FAWR 'Dyfodol i'n Cymunedau' Neuadd Undeb y Myfyrywr, CAERDYDDD 2pm Dydd Sadwrn Tachwedd 15fed
Siaradwyr - Alun Ffred Jones AC, Leanne Wood AC, Hywel Teifi Edwards www.cymdeithas.com
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Dw i wrthi ar hyn o bryd yn cynyddu'r nifer o gleientiaid sydd gyda fi, felly os hoffech chi dderbyn un o'r triniaethau ymlaciol fel aromatherapi neu dylino pen Indiaidd, neu os hoffech dylinad dyfnach i gael gwared ar boenau cyhyrol, a hynny yng nghludwch eich cartref eich hun, gallwch fy ffonio i ar 07881 607723 i drefnu triniaeth.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|