|
POPTY YN RHYDFELEN
Ym mis Tachwedd cafodd disgyblion Ysgol Gyfun Rhydfelen wledd gerddorol anferth. Cawson nhw ddisgo am ddim yn ogystal ac anrheg o CD 'Popty' a oedd yn cynnwys nifer o ganeuon diweddaraf grwpiau Cymreig Cymru.
Trefnwyd y prynhawn gan Rhys Mwyn, cynhyrchydd recordiau o'r Gogledd gyda help gan Adran Marchnata S4C, a chafwyd cymorth ariannol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. "Pwrpas y prynhawn oedd i bwysleisio i bobl ifanc Cymru bod gennyn ni grwpiau pop sy'n canu trwy gyfrwng y Gymraeg sydd llawn cystal ag unrhywbeth byddant yn gwrando arno yn Saesneg".
Perfformiodd Gwenno, TNT ac Alun Cowles eu caneuon Cymreig er bod TNT hefyd wedi recordio gwaith yn y Saesneg gan eu bônt wedi cefnogi grwpiau megis Liberty X ac A1 mewn cyngherddau'n ddiweddar.
Dywedodd Nia Sheppeard, Bl. 8 "Alun Cowles oedd y gorau achos dwi'n cofio ei weld e pan oedd e yn ein hysgol ni. Roedd yn wych ei weld yn canu ar y llwyfan jest fel Gareth Gates".
Cyflwynwyd y grwpiau gan Gethin Jones, sef un o gyflwynwyr Planed Plant, sydd hefyd yn 'Bachelor of the Year' cylchgrawn Company. Cafodd gyfweliad syth ar ôl y disgo gan Bethan Keogh ar gyfer ei raglen radio 'Amser Arddegau' ar GTFM, a gofynnodd iddo a oedd ennill y teitl wedi rhoi hwb i'w fywyd
|
|