|
Cylch Meithrin Sardis. Pob hwyl i'r plant sydd yn gadael ac yn dechrau Ysgol Gymraeg Evan James ym Mis Medi. Diolch i staff y feithrin am eu gofal a'u gwaith caled yn ystod y flwyddyn. Bydd rhai newidiadau ym Mis Medi. Mae'r Ysgol Feithrin yn parhau ar agor yn y bore ond oherwydd eu phoblogrwydd bydd sesiynau'r prynhawn yn dechrau. Os oes diddordeb, cysylltwch yn syth er mwyn sicrhau lle. Bydd "Ti a Fi" yn cael ei chynnal prynhawn dydd Llun -1.30y.p. i 3.00.y.p.- o fis Medi ymlaen. Croeso i bawb.
Babi Newydd. Llongyfarchiadau i Geraint ac Emma, Lanwood Road, Graigwen ar enedigaeth merch fach, Mirain Alaw. Nith gyntaf i Aled Thomas , Lan Close a Menna Thomas , Efail Isaf.
Ysgol Maesycoed Llongyfarchiadau i dîm pêl-rwyd yr ysgol ar ennill Pencampwriaeth Pêl -rwyd Ysgolion Cynradd Yr Urdd yn Aberystwyth yn ddiweddar. Fe guron nhw Ysgol Malborough Road, Caerdydd yn y rownd derfynol. Enillon nhw y gystadleuaeth hon ddwy flynedd yn ôl hefyd. Diolch i'w hyfforddwraig Andrea Cooper.
Clwb y Bont. Yr Eisteddfod Dafarn 20.06. 2003. Ugain mlwydd oed ond mae ysbryd yr hen glwb yn ifanc o hyd. Cafwyd llond bol o fyrgyrs yn y Barbiciw ac yna llond bar o hwyl yn Eisteddfod Dafarn Clwb y Bont. O "Stori wir " Cliff Hewitt am yr Eidalwr sy'n ceisio dwyn ein defaid i "Boogie Woogie " blewog Lyn, roedd 'na gyffro, chwys a thensiwn wrth i dîm Y Bont herio tîm Y Pridd. Roedd uchafbwynt cynnar yn yr adrodd i ddysgwyr wrth i Dave y Gwyddel, dysgwr amhrofiadol iawn, ddod i'r brig. Ei angerdd yn fwy na'i ynganiad blesiodd y beirniad, Gwyn Griffiths. Yng ngheg Dave trodd
|
|