<< Tudalen Blaenorol

Tafod Elái Gorffennaf 2003

Tudalen Nesaf >>

I Bendraw'r Byd ac yn ôl



"Rydw i'n mynd i ladd Geraint heddiw," meddai'r ffermwr o Sbaenwr.
   "Rydych chi'n mynd i ladd fy mab, Geraint?" holodd ei gymydog o Gymro mewn braw."
   "Rydw i'n mynd i ladd  Geraint, fy mochyn," eglurodd y Sbaenwr.
   Eileen James de Jones a ddywedai'r stori ym mwyty'r Angel, rhyw ddau ganllath o Ty Camwy, cartref Eiry tra bydd hi'n diwtor yn y Gaiman. Y cwmni a wrandawai arni oedd ei gwr, Dewi Mefin, cyn-brifathro ysgol uwchradd ac un o swyddogion Gorsedd y Wladfa, Luned Gonzales, arweinydd Cymry Dyffryn Camwy, ei gðr, dyn diddorol a diwylliedig na wyr neb ei enw cyntaf, a'u mab  Fabio Trefor, Sara Lewis o Aberdâr, sy'n diwtor Cymraeg yn Nhrelew, a Carlos Dante Ferrari a'i wraig Veronica, sy'n ddisgyblion i Sara.
   Pan oedd Eileen a'i brawd yn blant ar fferm yn ardal Bryn Gwyn, roedd ganddynt gi anwes o'r enw Carlo. Enw mab y fferm agosaf oedd Carlos. Dyna pam y dywedodd tad y bachgen hwnnw wrth eu tad hwy:
"Fe enwoch chi'ch ci chi ar ôl fy mab i, felly fe enwais i'n mochyn ni ar ôl eich mab chi. Ac heddiw rydw i'n mynd i'w ladd o!"
   Mae'r Carlos oedd gyda ni'r noson honno'n farnwr yn Llys Apêl Trelew ac yn llenor. Cyrhaeddodd ei nofel
El Riflero de Ffos Halen/Saethwr Ffos Halen restr fer o bump (o 455) mewn cystadleuaeth nofel y flwyddyn drwy'r Ariannin benbaldr.   Mae'n gyfrol ddifyr a darllenadwy sy'n adrodd hanes sefydlu'r Wladfa a datblygu Talaith Chubut trwy ddilyn hynt a helynt cymeriad dychmygol o'r enw Randall Thomas, a genhedlwyd ar fwrdd y Mimosa ar y fordaith o Lerpwl. Mae'r awdur yn awyddus i'r llyfr gael ei drosi i'r Gymraeg. Rwyn siwr y byddai'n boblogaidd ymhlith ystod eang o ddarllenwyr ac yn eu galluogi i amgyffred cymaint oedd arwriaeth Cymry'r minteiodd cyntaf -  heb deithio 8,000 o filltiroedd.

Uchelfannau eraill
Dydd Gwener, Mai 23. Cyrraedd Buenos Aires ar ôl hedfan o Heathrow via Roma. Cael Y Wladfa yn dy Boced Cathrin Williams yn fwy defnyddiol na llawlyfr sgleiniog, trwchus Time Out ar B.A. Gweld y Casa Rosada, pencadlys y Llywodraeth a'r Plaza de Mayo, gyferbyn, lle bydd "Mamau'r Diflanedigion" yn ymgynnull yn wythnosol i wrthdystio'n erbyn y modd y "diflanwyd" eu perthnasau gan yr unbenaeth filwrol, giaidd a ddaeth i ben rhyw ugain mlynedd yn ôl. Dilyn cyfarwyddyd Cathrin gyda'r hwyr a mynd i gabaret Tango yn y Cafe Tortoni, y sefydliad hynaf o'i fath yn B.A. Y gantores yn mynd o amgylch y gynulleidfa i holi o ble y deuai'r cwsmeriaid. "Gales," atebais. "Atención! No somos ingleses!" Meddai hithau:"Ah. Si. My son lives in Notting Hill".
   
Dydd Sadwrn, Mai 24. Gwibdaith o amgylch y Brifddinas fawr a'i maestrefi gwych a gwachul mewn bws twristaidd. La Boca, liwgar, Eidalaidd, cartref Diego Maradona a  thîm peldroed enwog y Juniors yn ddifyr iawn. Cael tynnu'n lluniau efo pobol ryff yn cymryd arnynt fod yn tangueros.
   
Dydd Sul, Mai 25. Hedfan o B.A. i Drelew, taith ddwyawr. Eiry'n aros amdanom efo sgrag o dacsi i fynd â ni i Ty Camwy, yn Calle Michael D. Jones, Gaiman, cartref y tiwtoriaid Cymraeg. Noddir yr adeilad gan Gymdeithas y Camwy a Choleg Camwy, yr ysgol uwchradd leol.
   Dydd Llun, Mai 26. Crwydro pentre'r Gaiman. Ymweld â'r Amgueddfa ddiddorol sydd yng

ngofal Tegai Roberts, chwaer Luned Gonzales, a'r Ty Cyntaf, bwthyn isel, llawr pridd a wnaed o feini geirwon. I Drelew yn y pnawn. Rhyfeddu at gerflun anferth sy'n anrhydeddu Lewis Jones, Sylfaenydd y Ddinas. Gwr ifanc o'r enw Diego Jones a'i gyndadau'n hannu o Aberdâr sy'n gofalu am yr Amgueddfa yma. Galw i weld Catrin Morris, Rhydfelen gynt, a chael croeso cynnes ganddi hi a'i gwr, Milton a'r ddwy ferch fach, Elen, blwydd a hanner a Mai, pythefnos. Anfonant eu cofion at ddarllenwyr Tafod Elái.
   Dydd Mawrth, Mai 27. 'Siop Siarad' yn Nhy Camwy. Cyfle i gwrdd â rhyw ugain o Gymry'r Gaiman a phobl o drasau gwahanol sy'n medru'r Gymraeg neu'n ei dysgu. Un wraig yn ein llongyfarch ar ynganu "Gaiman" yn gywir - h.y. fel petai'n air Cymraeg. "Mae'na bobol anwybodus o Gymru sy'n deud 'Gay Men', welwch chi."
   
Dydd Iau, Mai 29. Croesi'r Paith o'r Gaiman i Esquel mewn bws. Taith un awr ar ddeg. Dim yn torri ar yr undonedd llwyd, dragywydd ond ambell geffyl a dafad neu deithiwr yn disgwyl am y bws heb fod argoel o dþ na chwt o fewn can milltir. Mae'n ddyletswydd arnom i wneud y daith hon fel offrwm i goffadwriaeth y Cymry dewr a'i gwnaeth ar geffylau ac mewn troliau. Aros yn B&B  cyfforddus Elda Griffiths, chwaer Rene, a chyfarfod â Rini ei chwaer arall. Pobol glên iawn.
   
Dydd Gwener, Mai 30.  Gwibdaith dros y ffin i Chile mewn car a Brian Green, ðyr yr enwog Fred Green wrth y llyw. Mae'r

6

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>