<< Tudalen Blaenorol

Tafod Elái Gorffennaf 2003

Tudalen Nesaf >>

Andes gyfuwch â'r Alpau a'r Pyreneau ond yn wylltach. Sylwi wrth groesi'r ffin yn ôl i'r Ariannin fod y Ddraig Goch ar arfbais Talaith Chubut. Swper mewn ty bwyta yn Nhrefelin yng nghwmni hwyliog  rhyw 40 o aelodau o Gymdeithas Gymraeg y dref honno. Yr adloniant dan arweiniad egniol ac afieithus Nesta Davies o Ddyffryn Conwy, Tiwtor Cymraeg yr ardal, â'i phencadlys yn Ysgol Gymraeg yr Andes.
   
Dydd Sul, Mehefin 1. Te parti yng nghartref Charlie a Margarita Green, rhieni Brian, yng Nghwm Hyfryd - a da iawn yr enwyd y lle hwnnw. Ein cyfweld wedyn, rhwng emynau, gan Mary Green, chwaer Charlie, a Nesta Davies, yn ystod y rhaglen Mawl a Chân, a ddarlledir bob nos Sul gan yr orsaf radio leol, Radio Alpina. Daw cais ffôn am Y Border Bach  "gan Hywel i'w chwaer Olwen, er cof am Nain." Alan, brawd iau Brian yn ein gyrru'n ôl i Esquel. Mae'r ffordd unionsyth, faith a'r dirwedd wyllt yn f'atgoffa o olygfa o road movie Americanaidd. Eithr nid Country & Western na Rhythm and Blues a ddaw o'r radio, ond Martyn Geraint a'i gyfeillion yn canu Hip-hwre i Iesu Grist!
   Dydd Mawrth, Mehefin 3. I Borth Madryn a gweld y fan y glaniodd y Cymry. Ar y clogwyn uwchben, ceir cerflun o Frodor yn syllu dros y gorwel ac amgueddfa fechan ragorol i goffháu gwrhydri'r fintai arloesol. Er i rai wadu iddynt lechu yn yr ogofau ar fin y traeth, gosodwyd arwyddion yno i ofyn i ymwelwyr barchu'r fangref "lle y ganwyd rhai ac y bu eraill farw".  Ar ganol y prom ac yn nes at ganol y dref codwyd cerflun gwych ac arwrol Y Gymraes, i ddathlu canmlwyddiant y Glaniad ym 1965. Mae Gðyl y Glaniad, Gorffennaf 28, a Dygwyl Dewi'n wyliau swyddogol yn Nhalaith Chubut. Enwyd llawer o strydoedd Porth Madryn ar ôl Cymry amlwg ac un yn "Avenida Ciudad de Nefyn" - yr efeilldref. Dywedwyd wrthyf, heb wenieithu, gan fwy nag un Archentwr nad oedd o dras Gymreig: "Byddai'r Dalaith yn dal yn ddiffeithwch oni bai am y Cymry."
   
Dydd Sadwrn, Mehefin 7. Micro-Eisteddfod ar gyfer plant a phobl ifainc yn Festri Capel Bethel, y Gaiman. Trefnwyd y cyfan gan ddisgyblion hþn Coleg Camwy. Y lle dan ei sang efo cystadleuwyr,

Eiry gyda'i dosbarth

arweinyddion, beirniaid, pwyllgorwyr, mamau eiddgar a phlant chwyslyd. Festri Capel Croes-y-Waen, c.1950. Ond bod llawer o'r wynebau'n arddel llinach Ladinaidd, Arabaidd neu Frodorol ac mai Castellano (Sbaeneg) yw iaith y gweithgareddau. Cystadleuwyd ar y Ddawns Werin Gymreig ac ar drosi o'r Gymraeg i'r Sbaeneg. Caiff y Gymraeg le amlycach yn Mini-Eisteddfod Dyffryn Camwy ac yn Eisteddfod y Wladfa (o Borth Madryn hyd at yr Andes).
   
Dydd Sul, Mehefin 8. Te parti yn y Gimnasio,  canolfan chwaraeon y Gaiman. Cannoedd o amgylch y byrddau hir a phlateidiau o fara menyn a chacenni a dysgleidiau o jam arnynt. Plant yn mwynhau eu hunain efo'i gilydd. Merched prysyr yn rhuthro'n ôl a blaen efo poteidiau anferth o de poeth. Pryd ac ymhle y gwelais olyfga debyg o'r blaen? Sioe ffasiynau wedyn, a phlant a phobl ifainc yn arddangos dilladau o siopau lleol a B.A. Gyda'r hwyr,  Corau Ienctid, Cymysg a Meibion y Gaiman yn cyflwyno rhaglen

amrywiaethol o safon uchel iawn, yn cynnwys alawon ac emynau Cymreig. Diweddglo perffaith i'n hymweliad â'r Wladfa.

   Diolch i Eiry a'n gwahoddodd ni draw ac i'r rhai a enwyd uchod a llu o  bobol eraill nad yw gofod yn caniatáu imi wneud hynny, am groeso twymgalon. Cawsom brofiadau a wnaeth y rhain y gwyliau gorau erioed i Gina a mi.
Gair o gyngor (1) I bobol sydd wedi bod yn meddwl "mynd draw" ers blynyddoedd: Ewch. Wnewch chi ddim 'difaru. Mae prisiau'n isel iawn yno ar hyn o bryd - i ni. (2) I rai sy'n ffansïo bod yn Diwtor Cymraeg yn y Wladfa: Mae'n waith caled ond yn werth ei wneud. Bydd eich amserlen a'ch cyflog yn eich galluogi i ymweld â llawer man diddorol yn un o wledydd mwya'r byd.
Mae Eiry'n cofio at ei chyfeillion a'i chydnabod gan edrych ymlaen at eich gweld eto tua'r Nadolig.

   GARETH MILES

7

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>