|
|
|
|
|
|
BOWLIO I GYMRU Llongyfarchiadau mawr i Mr Michael Prosser o Parklands Tonyrefail ar gael ei ddewis i chware bowls gyda thîm Cymru ar daith i'r Alban ym Mis Gorffennaf. Mae Michael yn aelod o dîm Cwmlai ag yn un o'r medrusaf. Mae wedi chware i dîm Cymru fwy nag unwaith o'r blaen ac fe'i gwelwyd yn chware ar y Teledu yn yr ornest dan do yn ystod misoedd cynnar y flwyddyn. Mab i Mr a Mrs David Prosser ag yn frawd i Helen Prosser a Dani Grehan ag ewythr i Fflur a Gwynfor. Dymuniadau gorau iddo. Mae modryb i Michael sef Miss Betty Prosser lawer iawn yn well ar ôl damwain fel y soniwyd yn y rhifyn diwethaf o'r Tafod. Mae Mr David Prosser wedi cael llawdriniaeth ar glawr ei lygad ag yn gwella yn dda.
FICER Y TON YN YR YSBYTY Mae gofid mawr wedi bod gan aelodau a ffrindiau am salwch Ficer Tonyrefail Y Parchedig Stephen Ambarni. M mae wedi diodde gan strôc sydd wedi amharu ar ei ochr dde mae wedi bod yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg am rai wythnosau ac yn Ysbyty Llwynypia erbyn hyn.Gwellhad buan iddo. Mae'r salwch hyn wedi bod yn anffodus iddo ynghanol dathliadau canmlwyddiant sefydlu Eglwys Dewi Sant yn ystod y flwyddyn hon. Mae'r dathliadau yn mynd yn eu blaen, yn draddodiadol ar fore Sul y Blodau cafwyd ar y daith o Sant Alban i Dewi Sant gwmni Yr Hybarch Bill Thomas cyn ficer, ag sydd erbyn hyn yn Archddiacon Llandaf. Gweinyddwyd y cymun bendigaid yn Dewi Sant. Ar Ebrill 17 Dydd Iau Cablyd pryd o fwyd yn Sant Alban a'r Parch Elfed Hughes yn bresennol, Sul Mai 11eg., Cymun Bendigaid Mr Victor Steele yn gweinyddu, Mai 22ain cyngerdd gan Fand Pres Canol Rhondda. Ar y Sul 15fed o Fehefin Y Cymun yng nghwmni Yr Hybarch Martin Williams Archddiacon Margam.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
ARDDANGOSFA Llongyfarchiadau i Gymdeithas Dyfrliw Gilfach Goch am yr Arddangosfa a gynhaliwyd Nos Fawrth, Dydd Mercher Dydd Iau a bore Gwener Mehefin 17 -20ed yn y Ganolfan Dydd. Prin dwy flynedd sy ers sefydlu'r Gymdeithas a dyma nhw'n mentro ar eu harddangosfa cyntaf. Roedd llawer o luniau yn cael eu harddangos ac o'r 25 llun oedd ar werth gwerthwyd 13. Er nad oedd y tywydd yn dda roedd pobl yn mynd a dod yn gyson ar hyd yr amser wrth i bobl fynd adre a dweud wrth eu ffrindiau. Roedd pawb wedi eu plesio'n fawr iawn ac yn rhyfeddu fod pobl mor ddawnus yn byw yn ein plith. Roedd dau gwilt traddodiadol, un wedi ei orffen a'r llall bron a'i orffen, yn cael eu harddangos gan y Dosbarth Cwiltio a hefyd un o eiddo Mrs Gwyneth Abraham a gafodd ei wneud yn nosbarth Bethania tua 40 mlynedd yn ôl. 'Doedd dim tal mynediad ond gwerthwyd tocynnau raffl a chyflwynwyd £150 tuag at Nyrsys Mac Millan.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Llongyfarchiadau i'r gymdeithas fach hon o saith aelod a gobeithio'n wir y cawn sawl gwledd eto.
DRAMA Dydd Gwener y l3eg oedd hi pan deithiodd Cwmni Drama Gilfach Goch i Aberdaugleddau yn Sir Benfro ar gyfer cystadleuaeth derfynol Drama Un Act Cymdeithas Ddrama Amatur Cymru. Na doedden nhw ddim yn lwcus y tro hwn, torrodd y fan oedd yn cludo eu 'props' ac ni chawsant y wobr gyntaf ond serch hynny cafodd eu perfformiad o 'Bright Hoy' ganmoliaeth uchel gan y beirniad. Cwmni Players Anonymous o Donyrefail aeth a'r wobr gyntaf a chafodd Gordon Thomas a John Francis y wobr am yr actorion gorau. Cwmni Drama 'Berriw ger y Trallwng gafodd y wobr am y set llwyfan gorau. Llongyfarchiadau i Gilfach Goch am wneud mor dda, tipyn o gamp i ddod i'r prawf terfynol. Gwell lwc y tro nesaf.
CYNLLUN CHWARAE Thema Siapaneaidd oedd i Gynllun Chwarae Gðyl Banc y Gwanwyn yn y Ganolfan Gymunedol yn Hendreforgan. Cafodd y plant hwyl wrth wrando ar grwp Drymio Taiko ac yna cael tro ar y drymiau eu hunain. Daeth perchennog Bwyty Siapaneaidd o Gaerdydd a' i wraig i ddangos bwydydd Siapan ac i ddangos sut i'w paratoi a bu Julie Kelly Swyddog Datblygu'r Celfyddydau wrthi'n dysgu'r plant sut i wneud Origami. Cafwyd benthyg Cist o drysorau yn gysylltiedig a Siapan o Bencoed ac roedd y plant yn rhyfeddu wrth weld ei gynnwys a'r merched yn arbennig wrth eu bodd yn gweld y Kimonos. Diolch i staff y Ganolfan Gymunedol am baratoi'r cynllun ac mae nhw wrthi'n barod yn paratoi at wyliau'r haf pan fyddant yn paratoi Mardi Gras.
|
|
|
|
|
|