<< Tudalen Blaenorol

Tafod Elái Gorffennaf 2003

Tudalen Nesaf >>

YR HYBARCH WILLIAM EVANS TONYREFAIL.
Pregethwr, gweinidog
ag amaethwr.


Yn hanes y Parch William Evans mae yn rhaid cysylltu ei fywyd fel amaethwr a phregethwr, disgwyliwyd i weinidogion  yn yr adeg hyn i allu cynnal eu hunain heb fod yn gwbwl ddibynnol ar yr Eglwysi. Yr oedd William Evans wedi cael ei drwytho yn dda iawn  mewn amaethyddiaeth yn ei fywyd cynnar, felly yr oedd hyn wedi bod yn fendith iddo. Hefyd roedd wedi priodi merch a allai edrych ar ôl y fferm yn ei absenoldeb ar ei deithiau  pregethu.
   Yn ei eiriau ei hun,  am y flwyddyn 1814 roedd wedi cael gwraig a chrefydd. Ni ddechreuodd bregethu tan y flwyddyn 1818, pryd ei gymhellwyd ef i wneud gan rai o weinidogion amlwg y cyfnod.
   Er iddo deithio llawer ar hyd a lled Cymru i bregethu  a dilyn cyfarfodydd misol a chymdeithasfeydd a galw mawr arno i wasanaethu yn y cyfarfodydd pwysig hyn.
   Nid oedd wedi ei ordeinio tan 1825 yn gyntaf yng nghymdeithasfa Caerfyrddin ym mis Gorffennaf o'r flwyddyn ei neilltuwyd a chafodd ei ordeinio yng nghymdeithasfa Aberteifi mis Awst canlynol. Derbyniodd y fendith wrth Parch David Charles Caerfyrddin a fu yn un o gewri William Evans gydol ei oes.
   Ar ôl ei ordeinio fe deithiodd ledled Prydain  a bu yn Llundain  rhyw dair neu bedair o weithie. Ar y daith ola bu yno am ddeufis  a phregethu dair gwaith ar y Sul a hefyd yn ystod yr wythnos, a hynny yn wir am ei holl deithiau. Byddai'n mynd ar gefn ceffyl ar ei deithiau yn enwedig yn Sir Forgannwg. Roedd dau lyfr pwysig ganddo ar ei deithiau pell sef y Beibl a llyfr amserau rheilffyrdd, (Railway Guide).
   Bu farw y wraig gyntaf ar fis Hydref 30ain 1861 yn 63 oed a bu hyn yn golled fawr iddo, oherwydd bu yn gefn mawr iddo pan oedd ar ei deithiau.
   Ym Mis Ebrill 1865 fe ailbriododd â Mrs Isabella Roberts, gweddw Mr David Roberts o Bontfaen, a bu hithau yn gymorth mawr iddo yn ystod chwarter canrif olaf ei fywyd.
Wedi treulio hanner canrif yn pregethu (1818-1868) penderfynodd y

   Yn y flwyddyn 1891 fore 5ed o Chwefror daeth y newydd am ei farwolaeth yn 96 oed. Nid yn annisgwyl roedd wedi gwanhau ers rai wythnosau. Bu'r angladd dydd Mawrth canlynol 10fed o Chwefror. Cynhebrwng ni fu ei fath yn y Ton, daeth rhwng tair a phedair mil o bobl i dalu'r gymwynas olaf i'r Hybarch William Evans am oes hir o lafur. Claddwyd ei weddillion ym Mynwent Capel Y Ton  a'r feddargraff:-

ER Coffawdwriaeth am
Y Parchedig William Evans
o'r lle hwn.

   Yr hwn fu yn pregethu yr efengyl am yr ysbaid maith o 75eg o flynyddoedd ac ydoedd yn un o weinidogion mwyaf amlwg y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig.
Cafodd ei ddonio yn helaeth gan ei Arglwydd, ac ymroddodd yn llwyr i wasanaethu achos ei deyrnas ef ym mhob cylch.
Bu ei weinidogaeth yn foddion i droi llawer o bechaduriaid o gyfeiliorni ei ffydd, ac i gadw eneidiau lawer rhag angau.
Ganwyd ef yn
Garthgraban Ebrill 1795.
Bu farw ar Donyrefail
Chwefror 5ed 1891.

frawdoliaeth yn Sir Forgannwg roddi tysteb iddo a hynny ar ffurf darlun o honno o lawn maintioli mewn olew. Dewiswyd Signor Paggi o Gaerdydd, arlunydd galluog a medrus i ymwneud â'r dasg. Cynhaliwyd cyfarfod i gyflwyno'r darlun gydag anerchiad dydd Iau 3ydd o Fedi 1868 yng Nghapel Y Ton, a daeth tyrfa fawr ynghyd  yn cynnwys llawer o weinidogion a blaenoriaid ag eraill o bob rhan o Sir Forgannwg.
   Mae'r llun i'w weld ar hyn o bryd yng Ngholeg diwinyddol Aberystwyth,yn anffodus bydd y coleg yn cau diwedd mis Mehefin a bydd y llun yn mynd i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Mae yn llun hyfryd a rwyf wedi ei weld yn y coleg a thrwy ganiatâd y Prifathro rwyf wedi ceisio tynnu llun o honno, ond oherwydd sefyllfa'r llun mae rhwng dwy fenestr enfawr, mae wedi bod yn anodd cael llun boddhaol.
   Ar ôl hyn oll arafu a wnaeth a chadw o fewn Sir Forgannwg a daeth amser i adael y fferm Caercurlas sydd ond adfeilion erbyn hyn, y lle hapusaf yn ei dyb ef. Bu yn byw blynyddoedd ola ei fywyd yn Heol Collena, tþ a godwyd yn arbennig iddo a'i wraig.
   Cyn tynnu at y terfyn rhaid sôn am ei ddisgynyddion sef Madam Clara Novello Davies a fu yn gantores o fri. Roedd hi yn wyres iddo a'i mab Ifor Novello a fu yn arbenigwr ym myd yr opera a cherddoriaeth. Bu ef farw yn sydyn yn 1951 yn wr cymharol ifanc.
   Roedd eraill o'r teulu wedi gwneud yn dda fel meddygon a galwadau eraill. Ond rhaid diolch i awdur llyfr Cofiant William Evans Tonyrefail, ðyr arall sef  Y Parch William Evans MA o Brifysgol Glasgow hebddo ef ni fyddai cymaint o wybodaeth.

SWYDDOG CYLLID

Mae Menter Iaith yn Rhondda Cynon Taf wedi penodi Helen John o Donteg yn Swyddog Cyllid.  Bydd yn gweithio gyda'r Trysorydd  Anrhydeddus newydd, Gareth Parsons, er mwyn cryfhau y systemau ariannol a sicrhau fod digonedd o gyllid i hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf.

9

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>