Safonau Cyntaf yn Weithredol

Comisiynydd y Gymraeg

Llythyr gan Comisiynydd y Gymraeg.

Annwyl Olygydd,

Ar 30 Mawrth eleni fe ddaeth y set cyntaf o safonau’r Gymraeg yn weithredol. Y safonau hyn sy’n dweud beth ddylai sefydliadau ei wneud yn Gymraeg.

Mae’r safonau’n creu hawliau newydd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.

Cynghorau sir, Llywodraeth Cymru a’r parciau cenedlaethol yw’r sefydliadau cyntaf i weithredu’r safonau. Dros amser fe fyddant yn cael eu cyflwyno i sefydliadau a sectorau eraill, mewn meysydd fel iechyd, addysg ôl-16, trafnidiaeth cyhoeddus, ynni, gwasanaethau post, tai cymdeithasol, telegyfathrebu a llawer mwy.

Mae safonau’n seiliedig ar gyfraith gwlad; ac mae dyletswydd ar sefydliadau i gydymffurfio â nhw. Dylent roi ffydd i chi y gallwch ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â sefydliadau sy’n gweithredu safonau. Os nad ydych wedi gallu derbyn gwasanaeth Cymraeg boddhaol ganddynt, cysylltwch â mi i gwyno.

I ddysgu mwy am eich hawliau ewch i’r dudalen ‘Hawliau i Ddefnyddio’r Gymraeg’ ar wefan comisiynyddygymraeg.cymru a dilyn a defnyddio #hawliau ar y rhwydweithiau cymdeithasol. Mae croeso i chi hefyd gysylltu â ni ar y ffôn neu’n ysgrifenedig (manylion islaw).

Os ydych yn ysgrifennydd neu’n drefnydd grŵp neu fudiad cymunedol ac yn dymuno fy mod i neu un o’m swyddogion yn dod i siarad am eich hawliau iaith, yna mae croeso mawr i chi gysylltu ac fe drefnwn ymweliad.

Yn gywir,

Meri Huws

Comisiynydd y Gymraeg

Siambrau’r Farchnad

5-7 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1AT

post@comisiynyddygymraeg.cymru / 0845 6033221