Straeon Cymru ac India

Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref: Straeon Cymru ac India

Mae Parthian Books, Llenyddiaeth Cymru a’r Wales Arts Review wedi ymuno â Bee Books yn Kolkata, India ar gyfer prosiect llenyddiaeth newydd ar y cyd rhwng awduron o Gymru ac India, o dan y teitl Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref.

Gan gymryd y teitl o nofel glasurol Glyn Jones, The Valley, the City, the Village bydd y prosiect yn cefnogi tri awdur o Gymru a thri o India i ymweld â’r naill wlad a’r llall, gan ganolbwyntio ar agweddau ar gymdeithas fodern y lleoliadau y cyfeirir atynt yn y teitl, a chymryd ysbrydoliaeth ganddynt i gyfansoddi barddoniaeth, rhyddiaith, blogiau a straeon. O ganlyniad i’r prosiect fe gyhoeddir antholeg gan Parthian yn 2018 a fydd yn cynnwys gwaith gan bob un o’r awduron sy’n cymryd rhan.

Derbyniwyd grant hael gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chronfa India Cymru y British Council i ariannu’r prosiect. Mae Cronfa India Cymru yn fenter ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council. Diben y gronfa yw cynorthwyo cydweithrediad a chyfnewid artistig rhwng gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac India a fydd yn meithrin rhwydweithiau a chydberthnasau cynaliadwy rhwng y ddwy wlad. Dyma’r unig brosiect llenyddol a ariennir yn y rownd hon o geisiadau.

Dewiswyd tri awdur o Gymru i gymryd rhan yn y prosiect hwn: Natalie Ann Holborow a dderbyniodd Ysgoloriaeth i Awduron Llenyddiaeth Cymru 2016 – 2017, ac y mae ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Suddenly You Find Yourself, yn cael ei lansio ddydd Sadwrn 4 Chwefror yn Ffair Lyfrau Ryngwladol Kolkata. Yn ymuno â hi mae Siôn Tomos Owen awdur y casgliad dwyieithog Cawl a chyflwynydd y rhaglen ddogfen ar S4C, Pobol y Rhondda. Bydd yn darlunio, canu ac ysgrifennu fel rhan o’r prosiect. Y trydydd awdur yw Sophie McKeand, Awdur Llawryfog Pobl Ifanc Cymru, a fydd yn arwain cyfres o weithdai ar greadigrwydd i ysgolion Kolkata.

Bydd y tri yn aros yn India tan ganol mis Chwefror 2017 er mwyn mynychu Ffair Lyfrau Kolkata, cymryd rhan mewn digwyddiadau a phrosiectau amrywiol, a chydweithio â thri awdur o India, gan gynnwys Arunava Sinha, sy’n adnabyddus am gyfieithu llenyddiaeth Fengaleg. Yn ystod eu harhosiad, caent eu gwesteia gan y wasg Bee Books, sydd wedi lansio rhestr o ysgrifennu Ewropeaidd newydd dros India gyfan.

Dywedodd Esha Chatterjee, Prif Weithredwr Bee Books: “Mae’r ffair lyfrau yn brofiad cyffrous i awduron sy’n denu miloedd o bobl bob blwyddyn. Mae’n uchafbwynt blynyddol i bobl Kolkata, mae cymaint o lyfrau. Rydym wrth ein boddau yn cael y cyfle i groesawu ein cyfeillion llengar o Gymru – byddant wrth eu boddau yma.”

Dywedodd Richard Davies, Cyfarwyddwr Parthian Books: “Fel gwasg, mae gan Parthian ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth, syniadau a safbwyntiau newydd fel rhan o’n rhaglen Carnival of Voices. Trwy Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref, rydym yn cydweithio i greu cyfle i awduron o Gymru i ddatblygu eu gwaith mewn amgylchedd a diwylliant cwbl newydd. Bydd antholeg newydd cyhoeddedig yn sicrhau etifeddiaeth parhaol i’r prosiect gan alluogi cysylltiad ehangach â chynulleidfaoedd newydd.”

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae cymryd rhan yn y cynllun cyfnewid hwn gydag awduron o India yn gyfle gwych i dri o awduron newydd a phrofiadol gorau Cymru. Bydd yn meithrin eu creadigrwydd a’u dysg digidol ac yn cyfrannu at eu dealltwriaeth o amrywiaeth llenyddol ac ieithyddol India. Drwy weithio mewn partneriaeth â Parthian a’r Wales Arts Review, mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyfrannu at godi proffil awduron a gwaith ysgrifennu o Gymru ar lwyfan ryngwladol gyda’r prosiect hwn. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at gwrdd â’r awduron o India ym mis Mai ac at gyhoeddiad newydd Parthian, sef un o ddeilliannau’r cynllun cyfnewid hwn.”

Dywedodd Gary Raymond, Golygydd, Wales Arts Review: “Mae Wales Arts Review yn llawn cyffro am ein partneriaeth gyda Parthian, Bee Books a Llenyddiaeth Cymru, sefydliadau arloesol sydd â gweledigaethau blaengar. Atyniad y prosiect i ni yw rhyngwladoliaeth y syniad ein bod yn rhannu, nid yn unig ein gwybodaeth a’n diwylliant, ond ein tirwedd hefyd. Datblygiad perthnasau croes-ddiwylliannol fel yr anogir trwy brosiect fel hwn yw un o brif resymau sefydlu Wales Arts Review. Nid yw llenyddiaeth, diwylliant, celf yn bethau ar wahân, maent yn gynnyrch sgyrsiau, rhannu, datblygiad gwaith heb ffiniau, a dyma’n union yw bwriad Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref. Ac ar ddiwedd y daith caiff llyfr ei gyhoeddi, yn brawf parhaol o’r cyfnewid hwn.”

Dywedodd Rebecca Gould, Pennaeth Celfyddydau, British Council Cymru: “Rydym wrth ein boddau fod y bartneriaeth hon rhwng Parthian, Llenyddiaeth Cymru, Wales Art Review a Bee Books yn agor drws i ni i India. Bydd yn gyfle ardderchog i Gymru arddangos rhywfaint o’i llenyddiaeth gorau, ac i un o’n cyhoeddwyr blaenllaw sefydlu partneriaeth gydag un o gyhoeddwyr mwyaf cyffrous India. Caiff Cronfa India Cymru ei lansio mewn cyfnod arwyddocaol ym mherthynas Cymru â gweddill y byd. Mae’r gronfa’n ein galluogi i arddangos gwerth cysylltiadau byd eang. Yn ychwanegol i Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref, mae’r gronfa’n cyflwyno portffolio amrywiol o brosiectau uchel eu proffil, fydd yn dwyn endidau diwylliannol yng Nghymru ynghyd â phartneriaid cryf yn India i greu llwyfannau ar gyfer rhannu diwylliant.”

Dywedodd Nicola Morgan, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru: “Mae Cronfa India Cymru yn gyfle arbennig i sefydliadau ac artistiaid diwylliannol Cymru weithio’n agos â phartneriaid yn India. Mae’r gronfa’n dathlu profiadau diwylliannol, arloesedd a chyfnewid, ac mi fydd, heb os, yn torri llwybrau ar gyfer cyfleoedd cydweithio a masnachu rhwng y ddwy wlad. Mae’r bartneriaeth rhwng dau wasg annibynnol, sy’n rhoi cyfle i Natalie Ann Holborow lansio ei chyfrol gyntaf yn ffair lyfrau mwya’r byd, yn esiampl gwych o’r math o brosiect y mae Cronfa Cymru India yn falch o’i hwyluso.”

Bydd y tri awdur sy’n ymweld o India yn treulio tair wythnos yng Nghymru ym mis Mai/Mehefin 2017. Byddant yn perfformio ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys:

  • Digwyddiad cyhoeddus uchel ei broffil yng Ngŵyl y Gelli
  • Digwyddiad yng Nghanolfan Ysgrifennu TĹ· Newydd gyda’r awduron sy’n gysylltiedig â’r prosiect, yn ogystal ag awduron eraill o Gymru. Bydd TĹ· Newydd yn gartref i o leiaf un o’r awduron o India yn ystod eu hymweliad â Chymru.
  • Gŵyl benwythnos yn Llansteffan gyda’r awduron sy’n gysylltiedig â’r prosiect a rhai o awduron Parthian.
  • Digwyddiad yn Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.
  • Digwyddiadau yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd mewn cydweithrediad ag awduron o Gymru ac India ac aelodau o gymuned Indiaidd a’r Wales Arts Review.
  •  

Bydd yr holl awduron sy’n gysylltiedig â’r prosiect yn cael eu comisiynu i gyfrannu darn o waith i’r antholeg, yn ogystal â dewis dau ddarn o waith sydd, yn eu barn nhw, yn adlewyrchu’r diwylliant y maent wedi ei brofi yn wlad y cawsant ymweld â hi. Wrth ymweld â Chymru, bydd yr awduron o India hefyd yn blogio ac yn ysgrifennu am eu hymweliad ar wefan Wales Arts Review a fydd hefyd yn cynnwys cyfweliadau ac eitemau yn hyrwyddo’r ymweliad. Bydd yr un math o gynnwys gan yr awduron o Gymru sy’n ymweld ag India yn ymddangos ar wefan gan Kolkata Bloggers.