STRAEON TIC TOC

Oes gyda chi bum munud fach i sbario? Oes? Wel, dyma gyfrol fydd wrth eich bodd felly. Straeon Tic Toc – casgliad lliwgar o straeon pum munud ar gyfer y plant lleiaf.straeontictoc

Mae pob un o’r straeon sydd yn y gyfrol wedi eu darlledu’n wreiddiol gan Radio Cymru fel rhan o’r gyfres Tic Toc ar nos Sul.

Tic-Toc medd y cloc

Hwrê, mae’n amser stori!

Awn ar antur i’r gofod i wlad yr Wmffifflwffs, o dan y môr i Eisteddfod y Pysgod i wrando ar lais hyfryd Prys y pysgodyn aur a sgrechiadau aflafar Myfanwy’r macrell yn yr Unawd Heb Ddant cyn gwibio ar ras i ganol y mwncïod, yr eliffantod, y teigrod a’r anifeililiaid eraill i gyd yn Jwngl Anti Jini.

Cawn gyfle hefyd i gyfarfod â ffrindiau hen a newydd, yn cynnwys Waldo’r Gath sy’n cael siom o weld fod ci bach newydd am ddod i fyw gyda’r teulu, Huw-Bob-Lliw, y cymeriad bach rhyfedd sy’n gyfrifol am liwio pob peth yn y byd i gyd, Ela a’i gafr fach newydd, heb sôn am yr hen ffefrynnau Ben Dant a Cyw a’u ffrindiau.

Mae’r straeon a geir yn y gyfrol gan amrywiaeth o awduron newydd a chyfarwydd, yn cynnwys Anni

Llŷn, Bethan Gwanas, Caryl Parry Jones, Llŷr Titus, Casia Wiliam, Rhys Parry Jones, Meirion Davies, Rhian Williams, Lowri Delve, Rhiannon Lewis, Rhodri Trefor, Anna-Lisa Jenaer, Awel Trefor, Beca Evans a Bedwyr Rees.

A chyda lluniau lliw llawn o waith yr arlunydd amryddawn o Abergwyngregyn, Helen Flook, yn ei harddu drwyddi draw, dyma gyfrol sy’n siŵr o ddod â gwên i wyneb plant o bob oed!

Mae Straeon Tic Toc ar gael am £8.99 yn eich siop lyfrau leol neu www.gomer.co.uk

Cyhoeddir y gyfrol gan Wasg Gomer a deilliodd o brosiect cyffrous ar y cyd rhwng Radio Cymru, S4C a’r cwmni cynhyrchu Boom Cymru. Bob nos Sul am saith o’r gloch darlledir stori cyn cysgu i’r plant lleiaf ar BBC Radio Cymru.  

Mae mwy o Straeon Tic Toc ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar wefan Radio Cymru:

www.bbc.co.uk/storitictoc  

Manylion llyfryddol Straeon Tic Toc

clawr meddal, 120 tudalen, £8.99

ISBN 9781785621192

Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn unol â threfniant gyda Boom Cymru yn seiliedig ar Radio Cymru