Y MILIPWTS – RHYWBETH NEWYDD I’R TEULU

20130618canolfmilenY MILIPWTS – RHYWBETH NEWYDD I’R TEULU YM MHRIF ATYNIAD YMWELWYR CYMRU

I gyfoethogi profiadau teuluoedd ifanc sy’n ymweld â Chanolfan Mileniwm Cymru dros yr haf, mae atyniad newydd, Cartre’r Milipwts wedi agor mewn da bryd at wyliau’r haf. Mae Cartre’r Milipwts, sydd yng nghyntedd cyhoeddus rhad ac am ddim y Ganolfan, wedi’i lunio’n arbennig i ymwelwyr ifanc ac mae’n cynnig cyflwyniad arloesol i’r celfyddydau i ysbrydoli’r rhai bychain a phlant ifanc. Yng Nghartre’r Milipwts – sydd am ddim i ddod iddo pryd bynnag y bydd y Ganolfan ar agor – fe ddewch o hyd i bedwar cymeriad dychmygol o’r enw’r Ogi, Lecsi, Dyfi a Ponti, neu’r Milipwts; pob un yn seiliedig ar nodweddion gweledol y Ganolfan a’i darpariaeth ddiwylliannol.

Mae gan bob un o’r Milipwts ei bersonoliaeth unigryw ei hunan sy’n sicrhau fod rhywbeth at ddant pob plentyn rhwng 2 ac 8 mlwydd oed, p’un a ydyn nhw’n mwynhau’r treulio amser yno gyda’u teulu a’u ffrindiau neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau rheolaidd fel chwedleua, Awduron Bach neu sesiynau crefft Mini Make & Do. Gyda chyfleusterau rhyngweithiol a grëwyd ar y cyd â phedwar o gwmnïau preswyl y Ganolfan, mae’r gofod yn le sy’n cynnig profiad ymarferol i’r plant fynd i’r afael ag o ac yn cynnwys twnnel cudd i gropian trwyddo hyd yn oed!

Dyma gyflwyniad byr i denantiaid bach newydd y Ganolfan:

Mae Ogi yn llên-chwilen chwilfrydig a doeth. Dewch i ymuno ag Ogi yn ei gornel greadigol i ddarllen, ysgrifennu straeon, chwarae gemau geiriau a thynnu lluniau am eich ymweliad â’r Ganolfan.

Mae Lecsi wrth ei bodd ar ganol llwyfan, ac mae hi’n dwli dawnsio. Dilynwch gyfarwyddiadau gan ddawnsiwr proffesiynol ar y sgrin er mwyn dysgu symudiadau dawns.

Mae Dyfi’n hoff iawn o wisgo lan, ac mae hi’n fwy na hapus i adael i chi wisgo rhai o’r gwisgoedd mae hi wedi’u casglu o’r holl operâu, sioeau cerdd a ballets sydd wedi bod yn y Ganolfan.

Mae Ponti, ein pry’ bach digidol, yn fachan hollol cŵl. Cewch wrando sain gwahanol offerynnau gyda Ponti a dysgu am sut y caiff cerddoriaeth ei recordio mewn stiwdio broffesiynol.

Mae’r atyniad diweddaraf yma’n rhan o gynlluniau cyfredol Canolfan Mileniwm Cymru i ddarparu ar gyfer rhagor o deuluoedd trwy gyfrwng amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys perfformiadau, chwedleua a dosbarthiadau mewn amgylchedd diogel a chroesawgar i deuluoedd.

Croesawodd Canolfan Mileniwm Cymru fwy na 1.1 miliwn o ymwelwyr trwy’r drysau y llynedd, â hynny’n ychwanegol at y 394,000 o bobl a brynodd docynnau i sioeau yn ei dwy theatr. Mae’r Ganolfan yn boblogaidd ymhlith teuluoedd ar y penwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol yn arbennig.

Dywedodd Sarah Roberts, Rheolwr Dysgu Creadigol Canolfan Mileniwm Cymru sydd hefyd yn fam i ferch fach o’r enw Bella. ‘Mae Cartre’r Milipwts yn ysbrydoli plant i ddysgu am theatr a pherfformio mewn ffordd greadigol a hwyliog. Mae pob Milipwt yn cynrychioli gwahanol ddeunydd a ddefnyddiwyd i adeiladu’r Ganolfan (llechi, pren, dur a gwydr o Gymru) sy’n golygu fod y plant yn gallu gweld y cymeriadau yng nghyd-destun yr hyn sydd o’u hamgylch.’

Mae dwsinau o blant ifanc wedi bod yn rhoi Cartre’r Milipwts ar brawf ac mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn.

Pan fu Georgina, sy’n 6 oed, draw yng Nghartre’r Milipwts yn ddiweddar, roedd hi’n llawn cyffro amdano. Meddai ‘Dwi’n hoffi dawnsio’n fawr iawn, felly roeddwn i’n hoffi dilyn symudiadau dawns Lecsi ar y sgrîn deledu a gwylio fy hunan yn ymarfer yn y drych. Roedd adenydd Ponti yn cŵl iawn hefyd achos roedden nhw’n edrych fel y dur tu allan y Ganolfan. Ac roedd e’n lot o hwyl pan wnaeth fy chwaer fach a fi ffeindio’r twnnel cudd i fynd trwyddo.’

Cafodd Cartre’r Milipwts ei ariannu’n rhannol trwy Gynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth Llywodraeth Cymru.

I weld yr amrywiaeth lawn o weithgareddau a sioeau i’r teulu, a mwy, ewch i wmc.org.uk/teuluoedd. Cynhelir Penwythnos i’r Teulu arbennig, sy’n llawn gweithgareddau am ddim, ar 17 ac 18 Awst hefyd.