Y Robin Goch

Dim ond os ydych mor hen Ć¢ fi byddech chiā€™n sylweddoli gymaint maeā€™r hen fyd yma wedi newid. Dach chiā€™n cofioā€™r hen set weiarles yn craclo yng nghornel y lolfa? A mynd Ć¢ā€™r batris mawr iā€™r garej lleol iā€™w siarsio? Mi wnaeth y byd symud ymlaen camau mawr pan ddoth y radio transistor, yr un roedden niā€™n hongian ar ddrych y car er mwyn cael ryw fath o ā€˜in-car entertainmentā€™. I ni dyna oedd newid mawr.

Darllenais yn ā€˜Y Timesā€™ yn ddiweddar am Robin Goch a oedd yn byw bywyd dedwydd yn Heligoland, roedd wedi penderfynu treulioā€™r gaeaf yn ne ddwyrain Lloegr. Aeth i chwilio am siop Thomas Cook ond doedden nhw ddim yna bellach. Beth iā€™w wneud? Cymerodd anadl ddofn ac ar un noson pan oedd gwynt ysgafn yn mynd yr un ffordd Ć¢ fo dechreuodd ar y daith.Ā  Roedd hiā€™n wyth oā€™r gloch y nos a, chredwch neu beidio, roedd o wedi cyrraedd cyrion Llundain erbyn toc wedi hanner nos .

Ond sut ydan niā€™n gwybod hyn? Roedd oā€™n gwisgo nanotag – erbyn hyn mae pob aderyn eisio un, dim ond 0.3 gram maeā€™r tag yn pwyso ond maeā€™n galluogi ni i astudio pa mor bell mae adar bach yn mynd o gwmpas i chwilio am dywydd gwell. Taith o 140 milltir roedd Robin wedi gwneud yn y pedwar awr yna, hynny yw 35 mya.

Mae gymaint i ddysgu am fyd natur ac mae technoleg yn datblyguā€™n gyflym i alluogi ni ddysguā€™n llawer cyflymach. Tydiā€™r byd wedi newid ers yr hen weiarles dwedwch.

Edrychwch ar ein gwefan cymdeithasedwardllwyd.cymru i weld os ydan niā€™n cerdded yn eich ardal. Bydd croeso mawr i chi. Yn enwedig os dach chi wedi bod mor garedig o ddysguā€™n hiaith hyfryd ni.

Rob Evans