Dydd Sadwrn, Mawrth 26ain:
Crwydro Buenos Aires.
Hotel Lancaster
Dydd Sul, Mawrth 27ain:
Buenos Aires
AM: Taith o amgylch y Ddinas. Heddiw byddwn yn mynd i'r Plaza de Mayo,
y Gyngres, ardal la Boca lle byddwch yn cerdded ar hyd stryd enwog "Caminito",
ac yn gorffen ein taith ym marchnad rad San Telmo a gynhelir yn y Plaza
Dorrego bob dydd Sul. Gobeithio y bydd cyfle hefyd i gael golwg gyflym
ar ardal Recoleta a Pharc Palermo.
9 p.m. Cinio / Sioe Tango.
Dydd Llun, Mawrth 28ain:
Ymweld â Thy Opera Colon.
Ffrwyth oes aur Buenos Aires yw'r ty opera moethus hwn, sydd wedi croesawu
Luciano Pavarotti, Julio Bocca, Maria Callas, Placido Domingo, Arturo
Toscanini, ac Igor Stravinsky. Cymerodd bron 80 mlynedd i gwblhau'r prosiect,
ond mae'r canlyniad yn ysblennydd. Mae'r adeilad mawreddog a gwblhawyd
yn 1908 yn cyfuno amrywiaeth o arddulliau Ewropeaidd, o'r pennau colofnau
Ionig a Chorinthaidd a'r darnau gwydr-lliw Ffrengig yn y brif fynedfa
i'r grisiau marmor Eidalaidd a'r celfi, y canwyllyron a'r ffiolau Ffrengig
yn y Neuadd Euraid. Yn y brif theatr - sydd â lle i 2,500 eistedd
mewn seddi cerddorfa, rhesi, a phedwar gris - mae canhwyllyr enfawr yn
crogi o'r nenfwd cromennog a baentiwyd gan Raul Soldi. Mae acwsteg y theatr
yn fyd-enwog. Yn ogystal â chroesawu perfformwyr ar ymweliad, mae
gan y Colon ei gerddorfa ffilharmonig, ei gôr a'i gwmni bale ei
hun. Mae'r tymhorau opera a symffoni'n para o fis Ebrill hyd ddechrau
Rhagfyr.
|
|