Dydd Mercher, Mawrth 30nin
Parc Cenedlaethol Los Alerces. Crewyd y parc yn 1937 i warchod y clwstwr
o goed Lahuan (Fitzroya cupressoides), y cewri ymhlith coed yr Andes ym
Mhatagonia, a'r coed sy'n cyfateb yn hemisffer y De i'r coedydd coch (y
redwoods). Mae'r parc yn gorchuddio 263,000 ha yng ngorllewin talaith
Chubut ac yn ffinio â Chile. Mae'n cynnwys golygfeydd hardd, llynnoedd
a mynyddoedd a'r cyfan wedi eu cysylltu yn llwybrau dwr o wahanol hyd.
Ar y llethrau mae mantell o goed coihue a lenga (Nothofogus dombeyi a
N. pumilio) ynghyd â chypreswydd. Yn y rhannau gorllewinol mae'r
glawiad uchel wedi creu llystyfiant trwchus y coedwigoedd glaw claear
Valdifaidd. Y rhywogaeth fwyaf amlwg yw'r Fitzroya cupressoides, a elwir
ar gam yn "alerce'; yr enw cywir yw "lahuari". Yn y parc
hwn y mae'r clystyrau mwyaf o'r rhywogaeth hon yn y wlad. Ar lannau gogleddol
a deheuol llyn Menendez y ceir yr enghreifftiau gorau o'r coed enfawr
hyn sy'n tyfu'n 60 metr (200 troedfedd) o uchder, gyda boncyffion tri
metr o ddiameter. Mae rhai enghreifftiau i'w cael sy'n 3000 blwydd oed.
Taith ar gwch i'r Alerzal Milenario.
|
|